Gwir Gewri Gogledd Cymru

diwylliant a threftadaeth

               

gwir gewri gogledd cymru

Mae ‘na amryw o gewri yng ngogledd Cymru. A na, nid y rhai ‘mawr, mawr, mawr a’u pen yn bell o’r llawr’, er bod un neu ddau o’r rheiny wedi llechu yma hefyd. Yn cynnwys Rhita Gawr, cawr milain wnaeth fantell iddo’i hun o farfau’r brenhinoedd yr oedd wedi eu lladd.

Cewri gwahanol sydd gennym ni. Pencampwyr pensaernïol fel y cestyll mawreddog sy’n britho’r arfordir o Fflint i Gaernarfon. Mawrion y chwyldro diwydiannol megis Camlas Pontcysyllte Telford a’i bont grog drawiadol sy’n gwyro dros yr afon Fenai.

Trysorau diwylliannol o fri, fel Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Pobl hanesyddol o bwys, fel yr Esgob William Morgan gyfieithodd y Beibl cyntaf i’r Gymraeg. Llefydd anhygoel o sanctaidd, fel Ffynnon Gwenfrewi, oedd yn fyd enwog yn y canoloesoedd.

Yn wir, mae cymaint o fawrion, mae’n gamp gwybod ble i ddechrau. A dyna pam ein bod ni wedi dewis wyth o’r mawrion ar eich rhan. A chredwch fi, mae’r rhain yn gewri a hanner – yn wir, dyma’r gwir gewri.

Mae’n werth mynd i ymweld â phob un ohonynt. Ond mi allant hefyd eich arwain ar drysorau eraill cenedlaethol sy’n llechu gerllaw. Trwy ddilyn y cewri, mi fyddwch yn siŵr o gael antur a hanner yng ngogledd Cymru.

Neu ebostiwch info@truegiantsnorthwales.co.uk

Site information

© 2010 gwir gewri gogledd cymru